Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
11 Chwefror 2019

Pn(5)020 – Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019  ("yr Offeryn hwn") yn diwygio'r Offerynnau Statudol a restrir isod sy'n ymwneud â rheoliadau domestig sy'n deillio o'r UE sy'n gymwys yng Nghymru ynghylch: a) bwyd a addaswyd yn enetig; b) deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd; c) ychwanegion bwyd, cyflasynnau ac ensymau.

·         Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

·         Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

·         Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Mae'r Offeryn hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd gan baragraff 1(1) o Ddeddf 2018. Mae rheoliad 3(6) yn cael ei wneud drwy arfer pwerau o dan adran 16(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Mae rheoliad 3(6), a wneir drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 i wneud darpariaeth ynghylch y meini prawf sy'n berthnasol i'r dull o bennu lefel y clorid finyl mewn deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, a phennu lefel y clorid finyl a gaiff ei rhyddhau gan y deunyddiau a'r eitemau hynny.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

Pn(5)021 Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

These Regulations are made in exercise of the powers in paragraph 1(1) of Schedule 2 and paragraph 21 (b) to the European Union (Withdrawal) Act 2018, in order to address failures of retained EU law to operate effectively, as well as address other deficiencies in retained EU law arising from the withdrawal of the United Kingdom from the European Union.

These Regulations make amendments to secondary legislation in the field of food and feed hygiene and safety.

These Regulations were laid for the purposes of sifting under the European Union (Withdrawal) Act 2018 in accordance with Standing Order 27.9A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd